Loading Events

« All Events

Clwb Brecwast Amlddiwylliannol

20th October 2019 @ 10:00 am 12:00 pm

Sut mae brecwast Indiaidd, Cymraeg, Somali neu Balesteinaidd yn blasu?

Ymunwch â ni ar gyfer ein Clwb Brecwast Amlddiwylliannol cyntaf lle cawn roi cynnig ar frecwast o bob cwr o’r byd, gan gynrychioli’r diwylliannau cyfoethog yn ein dinas – ac ar garreg ein drws!

Ar gyfer ein digwyddiad cyntaf, hoffwn eich gwahodd i flasu dau fath gwahanol iawn o frecwast – o Balesteina a Jamaica! Bydd hwn yn ddigwyddiad teuluol, rhyngddiwylliannol sy’n pontio’r cenedlaethau yng Nghanolfan Stryd Wyndham. Bydd yn cyfuno bwyd, sgwrs a chyfle i gwrdd a gwneud ffrindiau wrth fwynhau pryd cyntaf y dydd! Mae rhannu brecwast gyda’n gilydd yn ffordd wych i gwrdd â phobl newydd, i ddysgu amdanynt, i rannu beth rydym yn ei fwyta, beth rydym yn ei wneud, beth rydym yn ei hoffi…

£1 Gofynnwn am rodd fach o £1 (neu'r hyn y gallwch ei fforddio). Yn rhad ac am ddim i geiswyr lloches a ffoaduriaid.

Wyndham Street Centre

3-5 Wyndham Street
Cardiff, Cardiff CF11 6DQ
+ Google Map