Inter-Generational Film Screening: A Suitable Girl
28th May 2019 @ 11:00 am – 2:00 pm
Y llynedd, gyda chefnogaeth Gŵyl Gwanwyn Age Cymru, lansiodd Clwb Ffilm Gentle/Radical ei dangosiad cyntaf ar gyfer pobl hŷn, ac ers hynny rydym wedi bod yn cynnal mwy! Ym mis Mai rydym yn
dathlu blwyddyn gyntaf ein ffocws ar bobl hŷn – gyda digwyddiad gwych sy’n pontio’r cenedlaethau!
Beth mae’r ymadrodd ‘pontio’r cenedlaethau’ yn ei olygu i chi?
Ar ddydd Mawrth 28ain Mai gwahoddwn bawb – dynion, menywod, hŷn ac iau – i ymuno â ni am ddangosiad o A Suitable Girl.
Mae’n rhaglen ddogfen sy’n dilyn tair menyw Indiaidd, sy’n brwydro i fyw eu bywydau ymysg pwysau dwys i briodi. Mae’r ffilm yn archwilio perthnasoedd cymhleth y menywod mewn perthynas â phriodas, teulu a disgwyliadau cymdeithasol a diwylliannol.