BEGIN:VCALENDAR
VERSION:2.0
PRODID:-//Gentle Radical - ECPv5.0.0//NONSGML v1.0//EN
CALSCALE:GREGORIAN
METHOD:PUBLISH
X-WR-CALNAME:Gentle Radical
X-ORIGINAL-URL:https://gentleradical.org/?lang=cy
X-WR-CALDESC:Events for Gentle Radical
BEGIN:VTIMEZONE
TZID:Europe/London
BEGIN:DAYLIGHT
TZOFFSETFROM:+0000
TZOFFSETTO:+0100
TZNAME:BST
DTSTART:20200329T010000
END:DAYLIGHT
BEGIN:STANDARD
TZOFFSETFROM:+0100
TZOFFSETTO:+0000
TZNAME:GMT
DTSTART:20201025T010000
END:STANDARD
END:VTIMEZONE
BEGIN:VEVENT
DTSTART;TZID=Europe/London:20201115T140000
DTEND;TZID=Europe/London:20201115T183000
DTSTAMP:20260417T071521
CREATED:20201008T162239Z
LAST-MODIFIED:20201008T162303Z
UID:2362-1605448800-1605465000@gentleradical.org
SUMMARY:Antholegau Gofal
DESCRIPTION:\n\n\n\n\n\n\nAntholegau Gofal :: (gan fy mod yn dal y bydysawd ynof\, etifeddiaeth yw fy enaid) \n\n\n\n\nMae Antholegau\nGofal yn ddigwyddiad am hunanofal\n… neu efallai ei fod yn ymwneud ag iachau … gwrthwynebiad drwy sianelu’r natur\nfenywaidd ddwyfol … neu ddod o hyd i’n ffordd adref … mae gan y digwyddiad\nhwn ddiddordeb yn ein cyfanrwydd\, ein lles radical\, sut rydym yn plethu\ncysylltiad cosmig â’r hunan\, neu’n gwneud pererindod\, tuag at i mewn. \n\n\n\nRydyn ni’n\ngwybod bod gwahanol ddulliau o hunaniaeth a phŵer yn effeithio ar allu unigolyn\ni wneud y gwaith o hunanofal. Rydyn ni’n gwybod bod gwahanol fathau o\ndrais sydd wedi’u hadeiladu’n rhan o’n systemau yn effeithio hefyd. Rydyn\nni’n gwybod bod byw o fewn gofodau a chymdeithasau lle mai anghydraddoldeb\nyw’r norm\, yn gysylltiedig â sut y gallwn ofalu amdanom ein hunain\, a sut yr\nydym yn derbyn gofal.  \n\n\n\n\nEfallai bod ein digwyddiad yn cael ei leoli llai o fewn y geiriau neu’r\nsgyrsiau\, a mwy o fewn y profiad yr ydym am ei rannu gyda’n gilydd. Rydyn ni’n\ngwybod\, bod gennym ni rai mannau cychwyn: \n\n\n\n\nMae adrienne maree brown\nyn egluro “ei fod yn ymddygiad iachaol\, i edrych ar rywbeth mor\ndoredig a gweld y posibilrwydd a’r cyfanrwydd ynddo” \n\n\n\nMae Audre\nLorde yn ein hatgoffa nad ymbleseru yw gofalu amdanom ni’n hunain\, “hunangadwraeth\nydyw ac mae honno’n weithred o ryfela gwleidyddol.” \n\n\n\nMae Bayo Akomolafe\nyn galw atom fod “mae’n gyfnod taer\, felly rhaid i ni arafu ” \n\n\n\nMae Karen\nLarbi yn datguddio\, “gan fy mod yn dal y bydysawd ynof … etifeddiaeth yw fy\nenaid” \n\n\n\nMae Antholegau Gofal yn cael ei guradu\ngan Roseanna Dias\, Rabab Ghazoul a Holly Muse\, gyda nifer o gyfranwyr arbennig\niawn: Karen Larbi\, Adeola Dewis \, Will Taylor\, Zahra Ash Harper\, Tony\nHendrickson\, Mary Anne Roberts ac eraill. \n\n\n\n\nYmunwch â ni am brynhawn o ffilmiau byr\,\ny gair llafar a sgyrsiau mewn perthynas â hunanofal\, adfer ac\nail-lunio. Gyda’n gilydd byddwn yn archwilio potensial gwaith cyfiawnder iachaol\nar draws gofodau sy’n unigol\, yn gyfunol ac sy’n pontio’r cenedlaethau. \n\n\n\n\nTrefniadau/Mynediad:\nDigwyddiad prynhawn ar y penwythnos yw hwn\, sy’n para 4 awr a\nhanner. Rydyn ni’n trefnu’r archwiliadau hyn mewn ffordd y\ngobeithiwn a fydd yn ein gadael ni’n teimlo’n fodlon ac wedi symbylu rhywfaint. Felly bydd\negwyliau\, elfennau o gyfranogi\, eiliadau o adfyfyrio\, gwahoddiadau i gamu i\nffwrdd o’n sgriniau\, i orffwys\, ac i adfer ein hunain. Cadwch lygad allan\nam ragor o wybodaeth\, byddwn yn cyflwyno mwy o fanylion dros yr wythnosau\nnesaf. \n\n\n\nPris y tocynnau yw £6\, £3\, £1 a gellir eu harchebu yn Ticket Tailor: bit.ly/2GHNm82 \n\n\n\nGofynnwn i bobl dalu’r hyn y gallant ei fforddio ar gyfer y digwyddiad hwn\, gan gofio ein bod wedi ymrwymo i dalu ein cyfranwyr yn briodol am eu hamser/mewnbwn blaenorol\, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y digwyddiad hwn mor hygyrch â phosibl. Bydd eich cyfraniad yn ein helpu ni i wireddu’r ymrwymiadau hyn.  \n\n\n\nAm unrhyw wybodaeth bellach\, cysylltwch â divya@gentleradical.org  \n\n\n\n\n\n\n\n\n\n\n
URL:https://gentleradical.org/digwyddiadau/antholegau-gofal/?lang=cy
END:VEVENT
END:VCALENDAR