BEGIN:VCALENDAR
VERSION:2.0
PRODID:-//Gentle Radical - ECPv5.0.0//NONSGML v1.0//EN
CALSCALE:GREGORIAN
METHOD:PUBLISH
X-WR-CALNAME:Gentle Radical
X-ORIGINAL-URL:https://gentleradical.org/?lang=cy
X-WR-CALDESC:Events for Gentle Radical
BEGIN:VTIMEZONE
TZID:Europe/London
BEGIN:DAYLIGHT
TZOFFSETFROM:+0000
TZOFFSETTO:+0100
TZNAME:BST
DTSTART:20210328T010000
END:DAYLIGHT
BEGIN:STANDARD
TZOFFSETFROM:+0100
TZOFFSETTO:+0000
TZNAME:GMT
DTSTART:20211031T010000
END:STANDARD
END:VTIMEZONE
BEGIN:VEVENT
DTSTART;TZID=Europe/London:20210513T190000
DTEND;TZID=Europe/London:20210513T210000
DTSTAMP:20260417T085602
CREATED:20210422T110921Z
LAST-MODIFIED:20210506T190239Z
UID:2395-1620932400-1620939600@gentleradical.org
SUMMARY:The Sound of Capital Being Grounded
DESCRIPTION:\n\n\nYmunwch â Gentle/Radical am grynodeb o fideos anifeiliaid o wanwyn 2020\, ffilmiau byrion sy’n archwilio perthnasoedd dynol ac an-ddynol\, a thrafodaeth ôl-sgrinio gyda dau siaradwr hynod. \n\n\n\n\n\n\n\nYr adeg hon y llynedd\, gyda’r cyfnod clo cyntaf ar ei anterth\, dechreuon ni sylwi bod effeithiau bywyd trefol\, yn cael eu hymyrryd arnynt. Gydag awyrennau yn ddisymud\, traffig ar stop\, a llygredd sŵn wedi tewi tra ein bod ni’n Aros. Gartref\, dechreuon ni weld a chlywed pethau oedd wedi’u halltudio ers amser maith o’n tirweddau trefol. Roedd pawb yn sylwi ar fywyd gwyllt. Roedd cân yr adar yn fywiog ac yn glywadwy. Roedd pobl yn sôn am natur yn ‘dychwelyd’. Ac yna…y doreth o fideos YouTube. O faedd gwyllt yn crwydro plazas yn yr Eidal\, gwyddau yn rhodio strip Las Vegas\, i eifr mynydd yn bwyta cloddiau cartrefi yn Llandudno. \n\n\n\nYsgrifennwyd llawer am y foment hon yn 2020 gan sylwebyddion di-rif. Dehonglodd rhai y newidiadau fel gweledigaethau o adfer\, adnewyddu\, atgyfodi. Yr hyn y gwyddom yw\, ni pharhaodd yr atgyfodiad. Soniodd Arundhati Roy am ‘borth’ a fyddai – petaem ond yn gallu camu i mewn iddo’n ddewr – o bosib yn ein tywys i rywle arall. \n\n\n\nYn ganolog i’n diddordeb ni gydag anifeiliaid mewn dinasoedd mae canfyddiad hirsefydlog o fodau dynol a natur – fel categorïau ar wahân. Mae’r ddeuoliaeth yn cael ei hamlygu’n ofodol yn y ffordd rydyn ni’n meddwl am ddinasoedd fel lleoedd i fodau dynol\, tra bod mannau gwyrdd dynodedig\, ardaloedd gwledig neu barciau cenedlaethol\, yn lleoedd ar gyfer ‘natur’. Mae cynllunio trefol cyfoes yn atgyfnerthu gofod trefol fel rhywbeth sy’n ddynol-ganolog yn y bôn\, gan bennu ble a sut y gellir ‘ffitio’ natur i mewn\, pa rywogaethau sy’n cael goroesi\, ffynnu\, perthyn neu sy’n cael eu halltudio. \n\n\n\nMae ‘The Sound of Capital Being Grounded’ yn cyfeirio at fyfyrdodau Joshua Virasami ar gau Maes Awyr City gan weithredwyr Mae Bywydau Du o Bwys Llundain yn 2016\, a oedd yn protestio am hiliaeth amgylcheddol. Wrth siarad yn symposiwm ‘Ail-ddehongli Amgylcheddaeth’ Gentle/Radical yn 2018\, cofiodd Virasami: “Cawsom neges gan breswylydd 90 oed o Newham\, y mae ansawdd ei bywyd hi ond yn ddeilliant negyddol yn y cwest i hedfan mwy o awyrennau\, yn dweud bod y distawrwydd y bore hwnnw wedi cael effaith ddofn arni. Ni allai gofio distawrwydd. Rwy’n credu mai’r tawelwch hwnnw yw tawelwch byd newydd yn cael ei eni\, a sŵn cyfalaf yn cael ei ddaearu.” \n\n\n\nMae ‘The Sound of Capital Being Grounded’ yn mynd â ni yn ôl i eiliad yn 2020 – o anifeiliaid\, o ddinasoedd\, o ddistawrwydd\, o byrth\, ac o bosibilrwydd sydd bellach yn teimlo ar goll yn anlladrwydd 127 mil o farwolaethau\, Adroddiad Sewell\, 40 biliwn ar gyfer Trident\, 1% ar gyfer y GIG … a mwy. \n\n\n\n“Who could not be thrilled by the swell of birdsong in cities\, peacocks dancing at traffic crossings and the silence in the skies” Arundhati Roy\, The Pandemic is a Portal. \n\n\n\nEIN SIARADWYR GWADDRydym yn hynod falch bod dau westai rhyfeddol yn ymuno â ni\, Joshua Virasami a Spud Knowles\, a fydd yn ein helpu ni i dynnu sylw at themâu’r digwyddiad hwn. \n\n\n\nMae Joshua Virasami yn artist\, ysgrifennwr a threfnydd gwleidyddol y mae ei waith a’i weithredu yn croestorri nifer o frwydrau gwleidyddol a sefydliadau ymgyrchu. Mae’n drefnydd allweddol gyda Mae Bywydau Du o Bwys y DU\, ac yn awdur How to Change It\, cyhoeddiad gan Penguin ar wersi ar gyfer ymgyrchu’n llwyddiannus. \n\n\n\nMae Spud Knowles yn ymchwilydd\, artist\, gofalwr a Chyd-sylfaenydd One Fox Lane (Caerdydd) sy’n ofod ar gyfer rhannu mannau gwaith /stiwdio’r celfyddydau. Yn ymddiddori mewn trawsnewidiadau cyfiawn\, trefolaeth\, bwyd\, planhigion a pherthnasoedd\, canolbwyntiodd ymchwil PhD Spud ar gynaliadwyedd ac arferion cymdeithasol ar lawr gwlad mewn perthynas â thyfu bwyd trefol. \n\n\n\nPris y tocynnau yw £5\, £3\, £1 a gellir eu harchebu yn Ticket Tailor: https://buytickets.at/gentleradical/509648 \n\n\n\nAm unrhyw wybodaeth bellach\, cysylltwch â divya@gentleradical.org \n\n\n\nMANYLION YMARFEROL A MYNEDIAD:  \n\n\n\nDigwyddiad Zoom ar-lein fydd hwn a bydd gan bob ffilm is-deitlau.  \n\n\n\nPlîs cysylltwch i drafod unrhyw anghenion mynedfa pellach \n\n\n\nCadwch lygad allan am fanylion Zoom yn agosach at yr amser. \n\n\n\nBydd sgrindeitlo byw yn y digwyddiad a bydd gan bob ffilm is-deitlau. \n\n\n
URL:https://gentleradical.org/digwyddiadau/the-sound-of-capital-being-grounded/?lang=cy
END:VEVENT
END:VCALENDAR