Riverside Community Breakfast Club
30th October 2022 @ 10:00 am – 12:30 pm
“I went to the gentle/radical breakfast morning, and I came back so elated and excited…! Nothing really happened, we just ate food, and I met other people from Riverside…I talked to people from my neighbourhood, people I was living around the corner from maybe for five years, but had never spoken to. And all that, for me, is what I’m on about…a space for that to happen, where people can feel safe”
Helen-Marie, Riverside resident/Doorstep Revolution participant.
In late 2019, we began a community breakfast club in Riverside. Local residents cooked Jamaican, Bangladeshi and Palestinian breakfasts, we gathered, ate, met, and it was a joy. Alongside other activities, Lockdown forced us to put our community breakfast gatherings on hold…but now…
We’re relaunching the Riverside Breakfast Club!
Everyone in our South Riverside neighbourhood is welcome – come on your own, bring your family, come with your housemates. Alongside the chance to chat and eat, we’ll also be showing a small selection of short films and trailers, so Riverside residents can help us choose films to screen locally in the future.
The Breakfast Club is free, but places are LIMITED. You can turn up on the day, but to ensure there’s a breakfast for you, please book with us in advance.
To book your free place/s contact:
hello@gentleradical.org
Or text 07442 376974
“Es i fore brecwast gentle/radical, a des i nôl mor hapus a llawn cyffro…! Fe wnaeth ddim byd digwydd mewn gwirionedd, dim ond bwyta bwyd wnaethon ni, a chwrddais i â phobl eraill o Lan-yr-Afon… siaradais â phobl o fy nghymdogaeth, pobl roeddwn i’n byw rownd y gornel oddi wrthyn nhw ers pum mlynedd efallai, ond erioed wedi siarad â nhw. A dyna’r peth, i mi, hyn rwy’n sôn amdano… lle i hynny ddigwydd, lle gall pobl deimlo’n ddiogel”
Helen-Marie, trigolyn Glan-yr-Afon/cyfranogwr y Chwyldro Garreg Drws.
Ar ddiwedd 2019, fe ddechreuon ni glwb brecwast cymunedol yng Nglan-yr-Afon. Bu trigolion lleol yn coginio brecwast o Balesteina, Jamaica a Bangladesh. Fe wnaethom ddod at ein gilydd, bwyta, cwrdd, ac roedd yn bleser. Ynghyd â gweithgareddau eraill, fe wnaeth y Cyfnod Clo ein gorfodi i ohirio ein digwyddiadau brecwast cymunedol…ond nawr…
Rydym yn ail-lansio Clwb Brecwast Glan-yr-Afon!
Mae croeso i bawb yn ein cymdogaeth yn Ne Glan-yr-Afon – dewch ar eich pen eich hun, dewch â’ch teulu, dewch gyda’ch cyd-letywyr. Ynghyd â’r cyfle i sgwrsio a bwyta, byddwn hefyd yn dangos detholiad bach o ffilmiau byr a rhagluniau, fel y gall trigolion Glan-yr-Afon ein helpu i ddewis ffilmiau i’w dangos yn lleol yn y dyfodol.
Mae’r Clwb Brecwast yn rhad ac am ddim, ond mae lleoedd yn GYFYNGEDIG. Gallwch alw mewn ar y diwrnod, ond i sicrhau bod brecwast ar gael i chi, cadwch eich lle gyda ni ymlaen llaw.
I gadw eich lle/lleoedd rhad ac am ddim cysylltwch â:
hello@gentleradical.org
Neu anfonwch neges destun at 07442 376974