Antholegau Gofal
15th November 2020 @ 2:00 pm – 6:30 pm
Antholegau Gofal :: (gan fy mod yn dal y bydysawd ynof, etifeddiaeth yw fy enaid)
Mae Antholegau
Gofal yn ddigwyddiad am hunanofal
… neu efallai ei fod yn ymwneud ag iachau … gwrthwynebiad drwy sianelu’r natur
fenywaidd ddwyfol … neu ddod o hyd i’n ffordd adref … mae gan y digwyddiad
hwn ddiddordeb yn ein cyfanrwydd, ein lles radical, sut rydym yn plethu
cysylltiad cosmig â’r hunan, neu’n gwneud pererindod, tuag at i mewn.
Rydyn ni’n gwybod bod gwahanol ddulliau o hunaniaeth a phŵer yn effeithio ar allu unigolyn i wneud y gwaith o hunanofal. Rydyn ni’n gwybod bod gwahanol fathau o drais sydd wedi’u hadeiladu’n rhan o’n systemau yn effeithio hefyd. Rydyn ni’n gwybod bod byw o fewn gofodau a chymdeithasau lle mai anghydraddoldeb yw’r norm, yn gysylltiedig â sut y gallwn ofalu amdanom ein hunain, a sut yr ydym yn derbyn gofal.
Efallai bod ein digwyddiad yn cael ei leoli llai o fewn y geiriau neu’r
sgyrsiau, a mwy o fewn y profiad yr ydym am ei rannu gyda’n gilydd. Rydyn ni’n
gwybod, bod gennym ni rai mannau cychwyn:
Mae adrienne maree brown
yn egluro “ei fod yn ymddygiad iachaol, i edrych ar rywbeth mor
doredig a gweld y posibilrwydd a’r cyfanrwydd ynddo”
Mae Audre Lorde yn ein hatgoffa nad ymbleseru yw gofalu amdanom ni’n hunain, “hunangadwraeth ydyw ac mae honno’n weithred o ryfela gwleidyddol.”
Mae Bayo Akomolafe yn galw atom fod “mae’n gyfnod taer, felly rhaid i ni arafu ”
Mae Karen Larbi yn datguddio, “gan fy mod yn dal y bydysawd ynof … etifeddiaeth yw fy enaid”
Mae Antholegau Gofal yn cael ei guradu gan Roseanna Dias, Rabab Ghazoul a Holly Muse, gyda nifer o gyfranwyr arbennig iawn: Karen Larbi, Adeola Dewis , Will Taylor, Zahra Ash Harper, Tony Hendrickson, Mary Anne Roberts ac eraill.
Ymunwch â ni am brynhawn o ffilmiau byr,
y gair llafar a sgyrsiau mewn perthynas â hunanofal, adfer ac
ail-lunio. Gyda’n gilydd byddwn yn archwilio potensial gwaith cyfiawnder iachaol
ar draws gofodau sy’n unigol, yn gyfunol ac sy’n pontio’r cenedlaethau.
Trefniadau/Mynediad:
Digwyddiad prynhawn ar y penwythnos yw hwn, sy’n para 4 awr a
hanner. Rydyn ni’n trefnu’r archwiliadau hyn mewn ffordd y
gobeithiwn a fydd yn ein gadael ni’n teimlo’n fodlon ac wedi symbylu rhywfaint. Felly bydd
egwyliau, elfennau o gyfranogi, eiliadau o adfyfyrio, gwahoddiadau i gamu i
ffwrdd o’n sgriniau, i orffwys, ac i adfer ein hunain. Cadwch lygad allan
am ragor o wybodaeth, byddwn yn cyflwyno mwy o fanylion dros yr wythnosau
nesaf.
Pris y tocynnau yw £6, £3, £1 a gellir eu harchebu yn Ticket Tailor: bit.ly/2GHNm82
Gofynnwn i bobl dalu’r hyn y gallant ei fforddio ar gyfer y digwyddiad hwn, gan gofio ein bod wedi ymrwymo i dalu ein cyfranwyr yn briodol am eu hamser/mewnbwn blaenorol, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y digwyddiad hwn mor hygyrch â phosibl. Bydd eich cyfraniad yn ein helpu ni i wireddu’r ymrwymiadau hyn.
Am unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â divya@gentleradical.org