Credwn mewn adeiladu heddwch

ond gall edrych yn wahanol i’r actifiaeth sy’n adnabyddus i ni

Wedi’i ysbrydoli gan adeilad unigryw a heneb bensaernïol – Teml Heddwch Caerdydd – mae ‘Mecca Newydd’ yn brosiect cyfranogol parhaus ledled y ddinas sy’n cynnwys cymunedau ar draws Caerdydd mewn cyfres o weithdai, dangosiadau, teithiau cerdded, sgyrsiau, darnau canu, digwyddiadau rhannu a chreadigaethau cymunedol.

Lansiwyd y prosiect ym mis Medi 2018. Daeth ei gam cyntaf i ben gyda chyflwyniad perfformiad oedd yn cynnwys ymatebion a wahoddwyd gan artistiaid/ymarferwyr, a gwaith canu newydd ei chyfansoddi gan Helen Chadwick, i nodi 80 mlynedd ers sefydlu’r Deml ym mis Tachwedd 2018. Gwnaethom wahodd gôr cymunedol, gwas sifil, cyfansoddwr, academydd, gweinidog Undodaidd, hanesydd trefedigaethol, actifydd ac artistiaid i’n helpu i greu gwaith perfformio yn archwilio 80 mlynedd archif y Deml.

Gwnaethom archwilio archif y Deml, yn arbennig Trefn y Gwasanaeth gwreiddiol yn marcio urddo yr adeilad ar y 23ain o Dachwedd 1938. Yn anad dim, gwahoddwyd ymatebion a allai ymgysylltu â’r bylchau, y bylchau yn y naratif o gwmpas y lle hwn – y bylchau a lefarodd â’r ymerodraeth, gwladychiaeth, patriarchaeth, lleisiau menywod, crefydd doredig a pheirianwaith rhyfel.

Cynhaliwyd y cam hwn o’r prosiect mewn partneriaeth â Gŵyl Being Human, Cymru dros Heddwch a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, mewn cydweithrediad â’r academydd Emma West o Brifysgol Birmingham.

Cam Dau

Mae cam nesaf y prosiect yn cynnwys cymunedau ar draws y ddinas mewn cyfres bellach o gwestiynau ynghylch adeiladu heddwch – cwestiynau mewn perthynas â dinasoedd, cymunedau, pensaernïaeth a’r dinesig. Byddwn yn cynnwys cymunedau sy’n pontio’r cenedlaethau ar draws gwahanol ieithoedd, cefndiroedd, crefyddau a diwylliannau i lywio cyfres o gydweithrediadau a digwyddiadau creadigol i archwilio etifeddiaeth y Deml Heddwch – a’r hyn yw ei gwahoddiad, i ni heddiw.

Cysylltwch â ni os hoffech chi gymryd rhan, neu os hoffech i’ch grŵp neu sefydliad cymunedol gymryd rhan.