Gwyriad

Yw ffordd wahanol o gyrraedd

Sut rydych chi’n symud trwy eich dinas?
Ym Mosul mae rhyfel wedi dinistrio seilwaith a diwylliant.
Ychydig iawn o leoedd sydd ar gael i bobl ifanc wneud pethau, i gwrdd.
Yn Jerwsalem, mae gwahanu yn cyfyngu Palesteiniaid rhag mynd i ardaloedd penodol.
Ychydig iawn o leoedd sydd ar gael i bobl ifanc wneud pethau, i gwrdd.
Yng Nghaerdydd, ar y wyneb, mae pethau’n ymddangos yn gyflawn, ond mae gwasanaethau ieuenctid wedi cael eu torri gan 85% ac mae’r ddinas yn cael ei boneddigeiddio, ei phreifateiddio a’i chorfforaethu fwyfwy.
Ychydig iawn o leoedd sydd ar gael i bobl ifanc wneud pethau, i gwrdd.

Felly sut rydym ni’n cwrdd â’ngilydd, a sut rydym ni’n cwrdd y tu hwnt i’r ffiniau?

Mae DETOUR yn gydweithrediad rhwng Mosul Eye (Mosul), The Fiction Council (Jerwsalem) a Gentle/Radical (Caerdydd) sy’n archwilio beth mae’n ei olygu i bobl ifanc ddod o hyd i atebion i ffiniau, a gwenwyndra ynghlwm ag oedolion yn gwahaniaethu yn erbyn pobl ifanc. Mae Irac a Phalesteina yn parhau i ddioddef canlyniadau gwladychiaeth, ymyrraeth y Gorllewin a rhyfel. Mae gan Gymru brofiad canrifoedd lawer o ddarostyngiad imperialaidd gan y Saeson ac ymdrechion i ddileu ei hiaith a’i diwylliant. Mae hefyd wedi cymryd rhan mewn campau ymerodrol, ac wedi elwa o fuddion y prosiect trefedigaethol Ewropeaidd ehangach.

Sut olwg fyddai ar brosiect gwneud iawn? A sut mae ymgymryd â ‘cyfnewid diwylliannol’ yn osgoi ailadrodd fframiau trefedigaethol pellach?

Mae DETOUR yn dod â phobl ifanc o dair dinas at ei gilydd ac yn ystyried sut mae gwneud iawn, gwneud heddwch, cyfiawnder yn yr hinsawdd, ffiniau a lleisiau ifanc – yn edrych ac yn swnio. Trwy sgwrsio, ysgrifennu, ffilm, sain a darnau canu, cefnogir pobl ifanc ar draws y dinasoedd hyn i greu gwaith sy’n sôn am eu pryderon, eu gwirioneddau a’u gobeithion.

Hyderwn y byddant hefyd yn dod o hyd i ffyrdd o gwrdd.

Rydym yn cychwyn ar y prosiect hwn yn 2019; ei nod yw parhau i’r dyfodol rhagweladwy. Bydd angen arian parhaus ar y prosiect, os gallwch helpu, cysylltwch â ni.