Clwb Llyfrau Palesteina

“Ac rwy’n dweud wrthyf fy hun, bydd lleuad yn codi o fy nhywyllwch” Mahmoud Darwish

Ers sefydlu Gentle/Radical yn 2017, bu nifer, ac mae’n dal i fod nifer o faterion ac achosion sy’n agos at ein calonnau. Mae Palesteina a rhyddid Palesteina yn un ohonynt, ac rydyn ni wedi trefnu sawl digwyddiad sy’n canolbwyntio ar hanesion, straeon a ffilmiau Palesteina yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Er bod undod gydag achos Palesteina yn dyfnhau’n fyd-eang, mae cymaint o bobl yn dal i gael trafferth deall y gwrthdaro; yn aml mae’n cael ei ystyried yn ‘rhy gymhleth’, neu mae pobl yn teimlo nad ydyn nhw ‘yn gwybod digon’ i ffurfio barn.

Felly, dyma Glwb Llyfrau Palesteina. Mae wedi deillio o’n hawydd i chwalu’r syniadau ynghylch Palesteina a rhai o’i naratifau gwenwynig, a mynd i’r afael â bylchau mewn dealltwriaeth a allai ein helpu ar y cyd i fod yn well gynghreiriad â Phalesteiniaid a’u brwydr dros gyfiawnder.

Mae ein gwahoddiad yn syml: rydym yn gwahodd unigolion, sefydliadau a grwpiau ledled Cymru (a thu hwnt) i sefydlu eu clwb llyfrau eu hunain i addysgu eu hunain yn well am Balesteina. Rydyn ni wedi llunio rhestr adnoddau i roi cychwyniad i bobl, yn ogystal â chyflwyniad ar sut i sefydlu eich clwb llyfrau eich hun, os mai hwn yw eich tro cyntaf. Cysylltwch â ni (ar rabab@gentleradical.org) a threfnwn i anfon yr holl wybodaeth ymlaen, yn y cyfamser, darllenwch ein cyflwyniad i’r prosiect hwn.