Lle

Arweinwyr dyfodol y byd

fydd cenhedloedd bach

Gweithiwn o gyd-destun yr oes a sefyllfa sydd ohoni: Cymru ddechrau’r 21ain ganrif. Cydnabyddwn diriogaeth gymhleth gyrhaeddiad trefedigaethol ar iaith, diwylliant, adnodd a phŵer sydd wedi siapio Cymru dros y canrifoedd. Yn ogystal, cydnabyddwn y fframweithiau trefedigaethol ehangach- y mae Cymru – fel cenedl Ewropeaidd fwyafrifol gwyn – wedi elwa ohonynt. Adnabyddwn feysydd cydblethedig dosbarth, iaith, hil, ethnigrwydd, diwylliant, natur wledig, natur drefol a mudo sy’n cyfarwyddo’r gofod cyfoes o bosibilrwydd sy’n ffurfio’r genedl Gymreig. Credwn mewn nerth cenhedloedd bychain, ac ym mhotensial radical diwylliannau bychain, amrywiol, amlieithog i fodelu ar reng flaen dyfodol cyfiawn a chynaliadwy’r 21ain ganrif.

Ein llafur creadigol yw’r gwaith o adeiladu’r dyfodol hwnnw.

Ystyriwn y broses hon fel dysgu parhaol.

A’r byd fel ein maes ymarfer.