Diwylliant yw ein hanfod

Ond yn aml erys yn anghynhwysol. Mae’r Fforwm Dychymyg yn blatfform ar gyfer artistiaid a gweithwyr diwylliannol sy’n bobl groendywyll/sydd ganddynt etifeddiaeth amrywiol, sydd â diddordeb yn sut y gallai sector diwylliannol yng Nghymru edrych ar ôl ei ail-ddehongli.

Beth mae hynny’n ei olygu?

Mae effaith strwythurau trefedigaethol ar fynegiant a chynhyrchiad diwylliannol wedi atal, ac yn dal i atal bywydau a chyfraniadau artistiaid amrywiolartistiaid sy’n dal i ymdrechu i gael eu hunain wedi eu cynrychioli’n ddigonol o fewn gofodau prif ffrwd. Mae ‘ail-ddehongliyn golygu nifer o bethaumae’n golygu rhoi terfyn ar y ffordd y caiff artistiaid eu defnyddio fel blychau ticio ar gyfer agendâu ‘amrywiaeth’, neu stopio cymunedau rhagymgysylltu’ am yr un rhesymau. Mae’n golygu ymgorffori arferion cynhwysol i’r brif ffrwd ym mhopeth a wnawn. Mae’n golygu gwneud newidiadau ar lefelau strwythurol, fel nad yw’r un cynulleidfaoedd, yn gwylio’r un artistiaid, yn cael yr un cyfleoedd, yn yr un gofodau. Trwy’r amser.

Oherwydd nad ydym am i’r dyfodol edrych fel y gorffennol, cafodd y Fforwm Dychmygu ei sefydlu fel gofod ar gyfer dadlau a chydweithredu yng nghyddestun y materion hyn.

I bobl sydd wedi eu heffeithio gan drais gwahaniaethu a gwaharddiad, un o’r pethau anoddaf yw dychmygu dyfodol rhyddfreiniedig. Sut y byddai dyfodol yn rhydd o ragfarn, hiliaeth, patriarchaeth a breintiau gwyn yn edrych yng Nghymru? Sut y byddai sector celfyddydol a diwylliannol sy’n adlewyrchu amrywiaeth ei ddinasyddion yn edrych?

Mae ein Fforymau Dychymyg yn ofodau lle rydym yn cymryd amser i ystyried y pethau hynny.


Imagination Forum#1, The Radical Imagination
Imagination Forum #2, Privilege, Oppression & Power
Imagination Forum #3, Decolonizing Culture with Teju Adeleye & Sandra Shakespeare
Imagination Forum #4, Pecha Kucha Night

Reflections
Hanan Issa : Some Monsters Are Real
Taylor Edmonds : Decolonising the Arts


Coming Up
Decolonizing Whiteness with Robin Di Angelo, October 2019