Sut y gall fod ar gyfer mwy, am fwy o’r amser
Rydym am i gelfyddyd fod yn llai cul o ran ei chyrhaeddiad
rydym am i ofodau diwylliannol deimlo fel petaent ar gyfer pawb; rydym am i wleidyddiaeth a gwrthsafiad fod yn ran o fywyd beunyddiol.
Os oes gan gelfyddyd rôl i’w chwarae mewn modelu cymdeithas flaengar (credwn fod ganddi) mae’n golygu holi cwestiynau am sut mae pŵer yn gweithio. Sut gallwn ddod ag ymwybyddiaeth o bŵer i’r hyn a wnawn? Sut ddeallwn y modd y mae pŵer yn gweithredu o’n cwmpas, gan gynnwys o fewn celf a diwylliant?
Credwn mewn democrateiddio, a gwneud iawn yn ddiwylliannol. Gwneud iawn, boed ar gyfer ieuenctid Palesteina yn Nwyrain Jerwsalem, neu bobl ifanc Cymoedd De Cymru. Rydym am weithio mewn ffyrdd sy’n mynd i’r afael â dietifeddu hanesyddol – diwylliannol, economaidd, gwleidyddol – y bobl sydd heb eto brofi’r pŵer a ddywedwyd wrthynt yn gyson sydd ar gael iddynt.
I gyflawni’r gwaith hwn, gweithiwn gyda gweithredwyr, ymgyrchwyr, artistiaid, ysgrifenwyr, newyddiadurwyr a nifer mwy. Gyda’n gilydd, ein nod yw newid y ffordd mae pŵer yn gweithio. Mae hynny’n teimlo’n beth anodd, ond yn ôl pob tebyg dyna’r peth pwysicaf gall diwylliant ei wneud ar hyn o bryd.
Mae gwerthoedd gwrth-hiliaeth, ecoleg, ffeministiaeth yn ganolog i’r prosiect. Mae dialog hefyd yn ganolog. Dylai’r drafodaeth fod yn agored i bawb. Credwn y dylai celfyddyd fod o ddefnydd i gymdeithas.