Rydym yn caru ffilm

Ond tybed pam – gyda’r cyfoeth o wneud ffilmiau annibynnol o’r Dwyrain Canol, Affrica, Asia, De America – mae cyn lleied o’r cymunedau amrywiol ar ein trothwy yn gwneud defnydd ohono?

Dyna’r cwestiwn roedd gennym yn ein meddwl pan ddechreuasom Glwb Ffilm ar lawr gwlad yn ôl yn 2004. Sefydlwyd gan un o’n Cyd-gyfarwyddwyr, mae’r Clwb Ffilm wedi bod yn trefnu dangosiadau hygyrch am dros 14 mlynedd, gan weithio mewn lleoliadau cymunedol cyfarwydd ac yn cynnal gofodau er mwyn siarad am ein bywydau, hanesion a’n hymdrechion, drwy ffilm. Dangoswn y goreuon ymhlith sinema’r byd i’r rhai hynny bydd prin yn cael mynediad i’r ffilmiau hyn, neu nad ydynt yn medru eu fforddio, neu sy’n teimlo mai prin y bydd gofodau sinema ‘arthouse’ neu brif ffrwd yn eu hystyried fel cynulleidfaoedd. Ni hoffwn ddefnyddio’r term ‘sinema’r byd’, ond byddwn yn dangos ffilmiau a wnaed gan rai o’r gwneuthurwyr ffilm rhyngwladol mwyaf diddorol a radical ar y blaned.

Yn ogystal â dangosiadau yn ystod y dydd i fenywod duon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, dangosiadau sy’n canolbwyntio ar yr ieuenctid, a digwyddiadau i’r to hŷn, cynhaliwn ddigwyddiadau gyda’r nos ac ar y penwythnos i ddynion a menywod yn gymysg sy’n anelu at greu cyfleoedd i wahanol bobl gwrdd â’i gilydd. Mae bwyd, siaradwyr gwadd a thrafodaeth yn allweddol. Mae ein digwyddiadau yn ymwneud â dod ynghyd â grwpiau ni fyddent fel arfer yn cwrdd- bellach nid term yn unig yw integreiddio, ond yn hytrach yn rhywbeth real yr adeiladwn ar y cyd.