Rydyn ni yn credu yn yr hyperleol

ni yn gwybod y gall parasiwtio artistiaid i mewn ac allan o gymunedau fod yn fuddiol, a bod defnyddio pobl fel adnodd yn parhau dynameg drefedigaethol. Felly sut ydyn ni’n ei adeiladu, yn yr un lle, yn hyperleol, am byth …?

Prosiect Chwyldro Carreg Drws Gentle/Radical yng Nglan yr Afon yng Nghaerdydd.

Mae ein prosiect Chwyldro Carreg Drws yn ceisio mynd i’r afael â hyn. Mae ein canolfan yng Nglan yr Afon, felly mae gennym ddiddordeb yn yr hyn a all ddigwydd yn y gymdogaeth hon dros 5, 10, 20 neu 30 mlynedd, pan fyddwn yn aros yn y fan a’r lle, ac yn canolbwyntio ar ble’r ydym. Sut y gallem feddwl am ‘ymgysylltu’ yn wahanol pe baem yn cynnal ymrwymiad i le. Pe baem yn canolbwyntio ar ddiwylliant fel grym ar gyfer trawsnewid pan fydd sylw’n parhau, ac nad yw cyllidwyr yn mynnu ein bod yn symud ymlaen i’r prosiect nesaf? Sut ydyn ni’n newid yr iaith o amgylch ‘ymgysylltu’ fel bod y termau hyn eu hunain yn dod yn ddiangen yn y pen draw – wrth i ‘gymuned’ ddod yn ffynhonnell barhaol ei hymgysylltiad ei hun…

Bydd y prosiect hwn yn troi o gwmpas strydoedd ar draws ein cymdogaeth, ac yn adeiladu adnodd o straeon, safbwyntiau, deialogau a naratifau amrywiol o amgylch y cyfnod clo Covid cyntaf – a’r cyfnod clo cyfredol. Gan weithio ochr yn ochr â thrigolion lleol, byddwn yn creu podlediad cymdogaeth newydd sbon yn ogystal â chyhoeddiad diwylliannol a chymunedol amlieithog Glan yr Afon ei hun. Rydyn ni am barhau i amlygu profiadau, heriau, a breuddwydion am ddyfodol gwahanol y rheiny sy’n byw ar garreg ein drws, gan leisio’r oes sydd ohonom …

I gymryd rhan, cysylltwch â hello@gentleradical.org. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan drigolion De Glan yr Afon… ac i’ch cynnwys chi yn y deialogau hyn a’r gwaith hwn…

#ChwyldoCarregDrws