Enwebiad ac arddangosfa Gwobr Turner
Yn ôl ym mis Mai, derbyniodd Gentle/Radical newyddion am eu henwebiad ar gyfer Gwobr Turner y Tate eleni. Yn 2021, ac am y tro cyntaf yn hanes y wobr, cydweithfeydd yn unig oedd yn ffurfio’r enwebiadau, pump i gyd, gan gynnwys Gentle/Radical.
Daeth hyn fel tipyn o sioc i Gentle/Radical, ac i sefydliad fel ein un ni – nad yw’n ymddangos yn rheolaidd mewn gofodau celf gyfoes neu orielau – roedd ymwneud â’r wobr yn codi pob math o gwestiynau i ni, yn ogystal â phosibiliadau. Mae ein grŵp yn cynnwys gwahanol bobl sy’n gweithio mewn gwahanol gyd-destunau – rydyn ni’n ymgyrchwyr cymunedol, gweinidogion ffydd, hyfforddwyr datrys gwrthdaro, gweithwyr tir, perfformwyr, ysgrifenwyr – ac – yn artistiaid. Felly yn ôl ym mis Mai, aethom ati o ddifrif i feddwl ar garlam, ynghylch sut y gallem i gyd ymddangos o fewn ffrâm waith gyda’n gilydd, ochr yn ochr â thîm curadurol sy’n cynnwys Melissa Hinkin, Ben GJ Thomas a’n cyfarwyddwr, Rabab Ghazoul.
Mae ein cyflwyniad, sy’n cynnwys fideo, elfennau wedi’u canu, darnau gwaith testun ac argraffedig, yn benllanw ar rywfaint o’n meddylfryd ar hyn o bryd; cyfres o fyfyrdodau ar sut rydyn ni’n uniaethu â’n gilydd, a bod yn dyst i’n gilydd, ar adegau o drafferth a phosibilrwydd hefyd. Mae’r arddangosfa yn tynnu ar weddïau Gorsedd Cymru; yn cyflwyno nodiadau ar gwricwlwm datblygol Gentle/Radical; ac yn taflu goleuni ar y cwestiynau cyson rydyn ni’n parhau i’w harchwilio fel grŵp – (Sut ydyn ni’n magu plant y tu hwnt i’r teulu niwclear? Sut ydyn ni’n cynnal lleoedd ar gyfer galar a cholled? Sut mae elfennau niferus diaspora yn ymddangos yn ein plith?)
Cynhelir Gwobr Turner 2021 yn Oriel Gelf ac Amgueddfa Herbert yn Coventry, fel rhan o ddathliadau Dinas Diwylliant y DU y ddinas mewn partneriaeth â Tate Britain. Mae’r arddangosfa’n rhad ac am ddim, ac mae’n rhedeg o 29ain Medi 2021 i 12fed Ionawr 2022. Cyhoeddir yr enillydd ar 1af Rhagfyr 2021.
Gyda’n diolch diffuant i Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru am ein cefnogi i greu’r gwaith hwn.