I gynnau tân
Yw gwahodd y lleill i mewn
MewnArabeg,mae’rgair’mish’aal’yngolygu’coelcerth’. Mae’ndodo’rferf’ilosgi’neu’igynnau’a chaiff ei ddefnyddio hefyd fel ymadrodd – ‘maen nhw’n llosgi gydag angerdd.’
Yndraddodiadolpanfyddaillwythaunomadig,ynteithiotrwy’ranialwch,ynsefydlugwersyllargyfergorffwysdrosnos,byddentynamlyncynnautân,ygellidgweldeioleunia’ifwgobelltermaithynyrawyr. Byddaicoelcertho’rfath yn anfon negesatdeithwyreraillfod ynagroesoiddyntstopioacymunoâ’rllwythirannubwydadŵr. Yn y modd hwn,maeAl-Mish’aalynsymbologroeso,oletygarwch. Mae’nwahoddiadagoredigyfathrebuathrafodageraill.
Mae AlMish’aal at Wyndham Street yn brosiect newydd a leolir mewn adeilad ac yno byddwn yn preswylio mewn ofod cymunedol yng nghanol Glan yr Afon. Gan adeiladu ar RethinkingRiverside (gwaith a wnaed yn 2018 gyda CPRN a SusPlace) trwy’r ofod hwn a’r gweithgareddau rydym yn eu hadeiladu o’i amgylch, rydym am ofyn y cwestiynau hyn a chwestiynau eraill:
Sut rydym ni’n adeiladu ofodau lle mae diwylliant yn hygyrch nid unwaith yn unig, ond yn barhaus i’r dyfodol.
Sut rydym ni’n rhannu ein dyheadau ar gyfer y dyfodol gydag eraill.
Sut y gall ein dyheadau siarad drwy’r prosiectau a ddatblygwn gyda’n gilydd.
Sut rydym ni’n archwilio’r modd mae pŵer yn gweithredu yn ein cymdeithas, ac yn creu dewisiadau amgen yn ein cymdogaethau.
Sut gall lleoliad nad yw’n gartref ddod yn fan mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r prosiect hwn, cysylltwch â ni. Os hoffech ddysgu mwy am ofod cydweithio yn Al Mish’aal, cysylltwch â ni.