Newyddion i ddod

RYDYM YN RECRIWTIO

Mae’n bleser gennym gyhoeddi rhai rolau newydd yn gentle/radical.

Rydym yn chwilio am ddau unigolyn deinamig, galluog sy’n awyddus i’n helpu i ddatblygu i gam nesaf gwaith ein cwmni. Rydym yn chwilio am bobl sy’n frwd ynghylch sut yr ydym yn mynd ati i ganoli gwaith tegwch a chyfiawnder, o fewn arferion celfyddydol a diwylliannol ar lefelau lleol iawn. 

Rydym am benodi ARWEINYDD STRATEGOL, a GWEINYDDWR cwmni. Bydd y ddwy swydd yn rhan-amser (3 diwrnod yr wythnos) am 6 mis, gyda’r bwriad o ymestyn y ddwy swydd yn amodol ar gyllid pellach. Er bod gentle/radical wedi’i leoli yng Nghaerdydd, rydym yn agored i geisiadau o Dde Cymru a thu hwnt.

I gael gwybodaeth am rôl yr Arweinydd Strategol a sut i wneud cais, cliciwch yma. 

I gael gwybodaeth am rôl y Gweinyddwr a sut i wneud cais, cliciwch yma.