Beth

Gweithio ar draws
gwahanol feysydd

yr ymylol yw ein prif ffrwd

Mae ein gweithgareddau’n symud yn ôl yr angen ddiwylliannol, diddordeb a’r hyn sy’n ein denu’n wleidyddol. I ni mae ‘angen diwylliannol’ yn golygu mynd i’r afael a’r bylchau mewn ymarfer, darpariaeth a meddwl diwylliannol prif ffrwd.

Rydym yn creu prosiectau sy’n gweithio ar draws gwahanol gymunedau, ffurfiau celf a gofodau. Cawn ein denu i gydweithredu â phobl sy’n teimlo’n effro i’r argyfwng rydym yn ei brofi, ac sydd â diddordeb yn ei drawsnewid. Tra bod gennym ddiddordeb mewn ‘celf’ a ‘diwylliant’, ni ystyriwn greadigrwydd yn gyfyngedig at y cylchoedd hyn yn unig. Gwelwn feddwl radical fel sylfaen y creadigol, y rheng flaenaf, y gweledigaethol.

Mae ein gweithgareddau’n cynnwys digwyddiadau dros dro, arddangosfeydd, perfformiadau, gwaith gosod, gwaith a chenir, gweithiau cyhoeddedig, dangosiadau ffilm, symposia, cerdded, cyflwyniadau, prydau bwyd, ymgynulliadau a gweithredoedd eraill sy’n dod â phobl ynghyd.