Loading Events

« All Events

Antholegau Gofal

15th November 2020 @ 2:00 pm 6:30 pm

Antholegau Gofal :: (gan fy mod yn dal y bydysawd ynof, etifeddiaeth yw fy enaid)


Mae Antholegau Gofal yn ddigwyddiad am hunanofal … neu efallai ei fod yn ymwneud ag iachau … gwrthwynebiad drwy sianelu’r natur fenywaidd ddwyfol … neu ddod o hyd i’n ffordd adref … mae gan y digwyddiad hwn ddiddordeb yn ein cyfanrwydd, ein lles radical, sut rydym yn plethu cysylltiad cosmig â’r hunan, neu’n gwneud pererindod, tuag at i mewn.

Rydyn ni’n gwybod bod gwahanol ddulliau o hunaniaeth a phŵer yn effeithio ar allu unigolyn i wneud y gwaith o hunanofal. Rydyn ni’n gwybod bod gwahanol fathau o drais sydd wedi’u hadeiladu’n rhan o’n systemau yn effeithio hefyd. Rydyn ni’n gwybod bod byw o fewn gofodau a chymdeithasau lle mai anghydraddoldeb yw’r norm, yn gysylltiedig â sut y gallwn ofalu amdanom ein hunain, a sut yr ydym yn derbyn gofal.


Efallai bod ein digwyddiad yn cael ei leoli llai o fewn y geiriau neu’r sgyrsiau, a mwy o fewn y profiad yr ydym am ei rannu gyda’n gilydd. Rydyn ni’n gwybod, bod gennym ni rai mannau cychwyn:


Mae adrienne maree brown yn egluro “ei fod yn ymddygiad iachaol, i edrych ar rywbeth mor doredig a gweld y posibilrwydd a’r cyfanrwydd ynddo”

Mae Audre Lorde yn ein hatgoffa nad ymbleseru yw gofalu amdanom ni’n hunain, “hunangadwraeth ydyw ac mae honno’n weithred o ryfela gwleidyddol.”

Mae Bayo Akomolafe yn galw atom fod “mae’n gyfnod taer, felly rhaid i ni arafu ”

Mae Karen Larbi yn datguddio, “gan fy mod yn dal y bydysawd ynof … etifeddiaeth yw fy enaid”

Mae Antholegau Gofal yn cael ei guradu gan Roseanna Dias, Rabab Ghazoul a Holly Muse, gyda nifer o gyfranwyr arbennig iawn: Karen Larbi, Adeola Dewis , Will Taylor, Zahra Ash Harper, Tony Hendrickson, Mary Anne Roberts ac eraill.


Ymunwch â ni am brynhawn o ffilmiau byr, y gair llafar a sgyrsiau mewn perthynas â hunanofal, adfer ac ail-lunio. Gyda’n gilydd byddwn yn archwilio potensial gwaith cyfiawnder iachaol ar draws gofodau sy’n unigol, yn gyfunol ac sy’n pontio’r cenedlaethau.


Trefniadau/Mynediad: Digwyddiad prynhawn ar y penwythnos yw hwn, sy’n para 4 awr a hanner. Rydyn ni’n trefnu’r archwiliadau hyn mewn ffordd y gobeithiwn a fydd yn ein gadael ni’n teimlo’n fodlon ac wedi symbylu rhywfaint. Felly bydd egwyliau, elfennau o gyfranogi, eiliadau o adfyfyrio, gwahoddiadau i gamu i ffwrdd o’n sgriniau, i orffwys, ac i adfer ein hunain. Cadwch lygad allan am ragor o wybodaeth, byddwn yn cyflwyno mwy o fanylion dros yr wythnosau nesaf.

Pris y tocynnau yw £6, £3, £1 a gellir eu harchebu yn Ticket Tailor: bit.ly/2GHNm82

Gofynnwn i bobl dalu’r hyn y gallant ei fforddio ar gyfer y digwyddiad hwn, gan gofio ein bod wedi ymrwymo i dalu ein cyfranwyr yn briodol am eu hamser/mewnbwn blaenorol, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y digwyddiad hwn mor hygyrch â phosibl. Bydd eich cyfraniad yn ein helpu ni i wireddu’r ymrwymiadau hyn.

Am unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â divya@gentleradical.org