“There is nothing more vulnerable than caring for someone; it means not only giving your energy to that which is not you but also caring for that which is beyond or outside your control. Caring is anxious—to be full of care, to be careful, is to take care of things by becoming anxious about their future, where the future is embodied in the fragility of an object whose persistence matters”.
Sara Ahmed, The Promise of Happiness“…when you seek to make things better, you are not just doing it for the Other, you must also be doing it for yourself”
Jack Halberstam yn ei ragarweiniad i The Undercommonsgan Fred Mote“Justice is what love looks like in public”
Cornel WestHelo. Croeso i’n gwefan. Neu yn hytrach, ei hafan. Mae angen ailwampiad o ddifrif ar ein gwefan, felly tra bod hynny’n digwydd, ychydig amdanom ni:
Mae ein henw – gentle/radical – yn lle da i ddechrau. Mae rhinweddau’r ‘gentle’ – prosesau sy’n teimlo’n araf, datblygol, chwilfrydig, ansicr, myfyriol – yn bwysig i ni. Ac mae rhinweddau’r ‘radical’ – pethau sy’n teimlo eu bod wedi’u gwreiddio’n ddwfn, neu bethau sy’n newid ar eu lefelau mwyaf sylfaenol neu hanfodol – yn bwysig iawn i ni hefyd.
Rhwng y gentle a’r radical, ein man cychwyn yw diwylliant. O ddiwylliant a chreadigrwydd, rydyn ni’n cysylltu â chydberthnasedd, ysbrydolrwydd, cyfeillgarwch, cymdogaeth a gofal. Mae’r holl bethau hyn yn teimlo’n gysylltiedig â chyfiawnder.
Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio ar brosiect o’r enw ‘Arafwch fel Pont’. Mae’r teitl wedi’i gymryd o ddyfyniad gan Tina Campt – ‘arafwch fel pont i ni adnabod galluoedd eraill’. Mae’r prosiect yn gweld artistiaid yn gweithio gyda thrigolion lleol Glan-yr-Afon, y gymdogaeth ar garreg ein drws, gan archwilio pynciau fel galar personol a chyfunol; gwybodaeth/au swyddogol ac answyddogol; natur presenoldebau parhaus ac ysbrydion; cymdogaeth a gollwyd ac a adenillwyd; ffurfiau o agosatrwydd; ffurfiau o bererindod; ffurfiau o adfer…Trwy rywfaint o’r gwaith hwn a gwaith arall, rydyn ni’n gofyn i ni’n hunain beth mae’n ei olygu i weithio’n wirioneddol mewn ffyrdd arafach a mwy cynaliadwy; beth mae’n ei olygu i adeiladu pontydd yn wahanol; a beth mae’n ei olygu i adnabod yr anweledig o fewn ni’n hunain, yr anweledig o fewn eraill…
Rydyn ni’n byw yng Nghymru. A chredwch ym mhotensial cenhedloedd bychain, amrywiol, cymhleth, amlieithog i fodelu gwahanol fathau o ddyfodol yn yr 21ain ganrif. Ac i wneud y gwaith hwn, credwn fod angen i iachâd fod yn unigol, mae angen iddo fod yn strwythurol, ac mae angen iddo ddigwydd ar y cyd.
Byddwn yn rhannu mwy yn fuan. Yn y cyfamser, os hoffech chi gysylltu, anfonwch neges e-bost i ni ar hello@gentleradical.org