
Clwb Brecwast Amlddiwylliannol
20th October 2019 @ 10:00 am – 12:00 pm
Sut mae brecwast Indiaidd, Cymraeg, Somali neu Balesteinaidd yn blasu?
Ymunwch â ni ar gyfer ein Clwb Brecwast Amlddiwylliannol cyntaf lle cawn roi cynnig ar frecwast o bob cwr o’r byd, gan gynrychioli’r diwylliannau cyfoethog yn ein dinas – ac ar garreg ein drws!
Ar gyfer ein digwyddiad cyntaf, hoffwn eich gwahodd i flasu dau fath gwahanol iawn o frecwast – o Balesteina a Jamaica! Bydd hwn yn ddigwyddiad teuluol, rhyngddiwylliannol sy’n pontio’r cenedlaethau yng Nghanolfan Stryd Wyndham. Bydd yn cyfuno bwyd, sgwrs a chyfle i gwrdd a gwneud ffrindiau wrth fwynhau pryd cyntaf y dydd! Mae rhannu brecwast gyda’n gilydd yn ffordd wych i gwrdd â phobl newydd, i ddysgu amdanynt, i rannu beth rydym yn ei fwyta, beth rydym yn ei wneud, beth rydym yn ei hoffi…