Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Imagination Forum #5

4th May 2019 @ 10:30 am - 2:30 pm

£2 – £4

 

Mae Fforwm Dychymyg Gentle/Radical yn ôl ac y tro hwn rydym yn archwilio BOD YN GYNGHREIRIAD.

Beth sy’n gwneud cynghreiriad da? Sut mae bod yn gynghreiriad yn gysylltiedig â phŵer a braint? Sut mae’n llywio perthnasoedd personol a phroffesiynol? A sut rydym ni’n gwella wrth ei ymarfer?

Er mwyn ein helpu i ddysgu mwy am y cysyniad hwn, rydym wrth ein bodd o groesawu Joshua Virasami yn ôl (a ymunodd â ni yn ein symposiwm ‘Ail-ddehongli Amgylcheddoliaeth’ y llynedd). Yn artist, yn gerddor, yn wneuthurwr ffilm ac yn actifydd arweiniol gyda Black Lives Matter London mae Joshua yn ymgyrchydd ysbrydoledig a dylanwadol mewn perthynas â chyfiawnder yn yr hinsawdd, hiliaeth amgylcheddol, a grym diwylliant mewn llywio newid radical.

Byddwn hefyd yn clywed gan rai lleisiau gwych o Gymru, ac yn ymchwilio i oblygiadau bod yn gynghreiriad i sector y celfyddydau yng Nghymru. Sut y gallai bod yn gynghreiriad da lywio modelau partneriaeth newydd sy’n deillio o eglurder, cyfiawnder a chydraddoldeb, yn hytrach na natur echdynnol a gwladychol?

Ymunwch â ni, fel y gallwn ddeall sut i adeiladu’r gwaith hwn, yng Nghymru, gyda’n gilydd.

Ble
Warws Glan yr Afon, 56 Machen Place, Caerdydd CF11 6EQ

Tocynnau £4/£2
Am ddim i geiswyr lloches

Details

Date:
4th May 2019
Time:
10:30 am - 2:30 pm
Cost:
£2 – £4
Event Category:

Venue

Riverside Warehouse
56 Machen Place
Cardiff, Cardiff CF11 6EQ

Organizer

Email:
radha@gentleradical.org